Mae Ray of Light Cancer Support Cymru yn fudiad elusennol a sefydlwyd yn 2009 ar gyfer pobl y mae canser yn effeithio arnyn nhw neu rywun annwyl iddynt. Fe’i sefydlwyd gan bobl sydd â phrofiad o’r un sefyllfa ac felly maen nhw’n gwybod yn iawn sut mae’n teimlo.
Rydym yma i gynnig cymorth emosiynol ac ymarferol i rai sy’n wynebu pryderon ac ansicrwydd clefyd y caiff dros 19,000 o bobl ddiagnosis ohono bob blwyddyn yng Nghymru.
Cynigiwn nifer o wahanol gynlluniau cefnogi yn cynnwys:
- Cyfarfodydd Grwpiau Cefnogi’ch Gilydd
- Cefnogaeth Un i Un
- Cwnsela
- Cyfeillio
- Cyngor a Chefnogaeth Cyfrinachol Ar-lein
- Llinell Gymorth ar y Ffôn
- Grŵp Cefnogi Ar-lein
- Grŵp Canu – Ray of Light Warblers
Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol a chlust i wrando mewn awyrgylch cyfeillgar, anffurfiol a heb feirniadu.
Nid ydym yn cynnal cyfarfodyd grwpiau na chymorth personol 1:1 yn ystod argyfwng presennol COVID-19. Fodd bynnag, mae galw mawr am ein cymorth o hyd ac rydym yn cael llu o alwadau ffôn gan bobl yn gofyn am gymorth oherwydd y pandemig sy’n effeithio’n fawr ar gleifion canser a’u gofalwyr.
Diolch i gymorth y Loteri Genedlaethol rydym yn lansio prosiect
Just ASK! – Access Support and Kindness
mewn ymateb i COVID-19 fel y gallwn ddal i gynnig sesiynau cymorth o bell ar blatfformau digidol.
Gallwch ymuno â sesiynau mewn:
Therapi Celf
Ioga yn y Gadair
Grŵp crefftau gwlân y
Close Knit Group
Ymwybyddiaeth Ofalgar
Grŵp naddu y
Whittling it Down Group
Ydych chi’n clywed? Cymorth Canser ar gyfer Pobl Fyddar
Goleuni ym Mhen Draw’r Twnnel – Helpu ei Gilydd â Materion Lles
Rhaglen HOPE Macmillan
Little Steps – Rhaglen
Mae croeso i chi ymuno â ni yn y rhithfyd hwn dros dro a, gobeithio, cyn bo hir iawn, y gallwn ddod at ein gilydd yn y byd go iawn.
Rhagor o sesiynau i ddilyn…
Rydyn ni’n dathlu 10 mlynedd!!
Mae gan ein holl wirfoddolwyr brofiad personol o ganser ac maent wedi cefnogi rhywun annwyl iddynt trwy gyfnod anodd.
Diolch yn fawr i’n gwirfoddolwyr ac aelodau’r grwpiau…
Rydych chi’n wych a fydden ni ddim yma hebddoch chi!
Monthly meetings
An informal peer support group for carers, friends and family members, come and join us for a cuppa in a friendly and supportive environment.
We’ve had to adapt our services due to the Covid-19 pandemic but we’re still here for you, more information in our news feed or on our Facebook page.
The Warblers,
Our singing group
Open to anyone affected by cancer, no singing ability needed, just a sense of fun! For more information, upcoming concerts and how you can get involved.
Latest News
Resources and links
We’re all in this together! We have collected together a wide range of resources and links that you may find useful: