Mae Ray of Light Cancer Support Cymru yn fudiad elusennol a sefydlwyd yn 2009 ar gyfer pobl y mae canser yn effeithio arnyn nhw neu rywun annwyl iddynt. Fe’i sefydlwyd gan bobl sydd â phrofiad o’r un sefyllfa ac felly maen nhw’n gwybod yn iawn sut mae’n teimlo.

Rydym yma i gynnig cymorth emosiynol ac ymarferol i rai sy’n wynebu pryderon ac ansicrwydd clefyd y caiff dros 19,000 o bobl ddiagnosis ohono bob blwyddyn yng Nghymru.

Cynigiwn nifer o wahanol gynlluniau cefnogi yn cynnwys:

Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol a chlust i wrando mewn awyrgylch cyfeillgar, anffurfiol a heb feirniadu.

Nid ydym yn cynnal cyfarfodyd grwpiau na chymorth personol 1:1 yn ystod argyfwng presennol COVID-19.  Fodd bynnag, mae galw mawr am ein cymorth o hyd ac rydym yn cael llu o alwadau ffôn gan bobl yn gofyn am gymorth oherwydd y pandemig sy’n effeithio’n fawr ar gleifion canser a’u gofalwyr.

Diolch i gymorth y Loteri Genedlaethol rydym yn lansio prosiect

Just ASK! – Access Support and Kindness

mewn ymateb i COVID-19 fel y gallwn ddal i gynnig sesiynau cymorth o bell ar blatfformau digidol.

Gallwch ymuno â sesiynau mewn:

Therapi Celf
Ioga yn y Gadair
Grŵp crefftau gwlân y
Close Knit Group
Ymwybyddiaeth Ofalgar
Grŵp naddu y
Whittling it Down Group
Ydych chi’n clywed? Cymorth Canser ar gyfer Pobl Fyddar
Goleuni ym Mhen Draw’r Twnnel – Helpu ei Gilydd â Materion Lles
Rhaglen HOPE Macmillan
Little Steps – Rhaglen

Mae croeso i chi ymuno â ni yn y rhithfyd hwn dros dro a, gobeithio, cyn bo hir iawn, y gallwn ddod at ein gilydd yn y byd go iawn.

Rhagor o sesiynau i ddilyn…

Rydyn ni’n dathlu 10 mlynedd!!

Mae gan ein holl wirfoddolwyr brofiad personol o ganser ac maent wedi cefnogi rhywun annwyl iddynt trwy gyfnod anodd.

Diolch yn fawr i’n gwirfoddolwyr ac aelodau’r grwpiau…

Rydych chi’n wych a fydden ni ddim yma hebddoch chi!